7 Dŷn ni ddim yn byw i'r hunan nac yn marw i'r hunan.
8 Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i'r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw.
9 Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a'r rhai sy'n dal yn fyw.
10 Felly pam rwyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw.
11 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,’ meddai'r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’”
12 Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto'i hun o flaen Duw.
13 Felly gadewch i ni stopio beirniadu'n gilydd o hyn ymlaen. Yn lle hynny, gadewch i ni benderfynu peidio gwneud unrhyw beth fydd yn rhwystr i Gristion arall.