18 Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith.
19 Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg.
20 A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i sathru Satan a'i fathru dan eich traed yn fuan.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.
21 Mae Timotheus, sy'n gweithio gyda mi yn anfon ei gyfarchion atoch chi; hefyd Lwcius, Jason a Sosipater, fy nghyd-Iddewon.
22 (A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoi'r llythyr yma ar bapur. Dw i'n eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.)
23 Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartre fe dw i'n aros), ac mae'r eglwys sy'n cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd.Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus.
25 Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i – sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd,