23 Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartre fe dw i'n aros), ac mae'r eglwys sy'n cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd.Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus.
25 Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i – sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd,
26 ond bellach mae wedi ei ddwyn i'r golwg. Fel mae'r ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol – mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a byw'n ufudd iddo.
27 O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen!