24 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “mae pobl y cenhedloedd yn dweud pethau drwg am Dduw o'ch achos chi.”
25 Byddai'r ddefod o enwaediad yn golygu rhywbeth taset ti'n gwneud popeth mae'r Gyfraith yn ei ofyn. Ond os wyt ti'n torri'r Gyfraith does gen ti ddim mantais – waeth i ti fod heb dy enwaedu ddim!
26 Ond os oes rhywun sydd ddim yn Iddew, a heb ei enwaedu, yn gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn, oni fydd Duw yn ei dderbyn e yn union fel petai wedi cael ei enwaedu?
27 Bydd y dyn sydd heb fod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu (ond sy'n gwneud beth mae'r Gyfraith yn ei ofyn) yn dy gondemnio di sydd wedi ‛cadw at lythyren y ddeddf‛ drwy gael dy enwaedu yn gorfforol, ac eto'n dal i dorri'r Gyfraith!
28 Dydy'r pethau allanol ddim yn dy wneud di'n Iddew go iawn. A dydy'r ddefod gorfforol ddim yr un peth ag enwaediad go iawn.
29 Na, enwaediad go iawn ydy'r newid ynot ti sy'n dod drwy'r Ysbryd Glân, dim y weithred lythrennol o dorri'r blaengroen. Iddew go iawn ydy rhywun sydd wedi newid y tu mewn. Mae rhywun felly'n cael ei ganmol gan Dduw, dim gan bobl.