1 Felly oes unrhyw fantais bod yn Iddew? Oes unrhyw bwynt i'r ddefod o enwaediad?
2 Oes! Mae llond gwlad o fanteision! Yn gyntaf, yr Iddewon gafodd y cyfrifoldeb o ofalu am neges Duw.
3 Mae'n wir fod rhai ohonyn nhw wedi bod yn anffyddlon, ond ydy hynny'n golygu wedyn fod Duw ddim yn gallu bod yn ffyddlon?
4 Wrth gwrs ddim! Mae Duw bob amser yn dweud y gwir er bod “y ddynoliaeth yn gelwyddog” Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn am Dduw: “Mae beth rwyt ti'n ddweud yn iawn; byddi'n ennill yr achos pan fyddi ar brawf.”