12 Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!”
13 “Mae eu geiriau'n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.”
14 “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.”
15 “Maen nhw'n barod iawn i ladd;
16 mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman,
17 Dyn nhw'n gwybod dim am wir heddwch.”
18 “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.”