13 “Mae eu geiriau'n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.”
14 “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.”
15 “Maen nhw'n barod iawn i ladd;
16 mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman,
17 Dyn nhw'n gwybod dim am wir heddwch.”
18 “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.”
19 Siarad am yr Iddewon mae Duw yma! Mae'r peth yn amlwg – nhw gafodd yr ysgrifau sanctaidd ganddo! Felly beth mwy sydd i'w ddweud? Mae'r byd i gyd yn wynebu barn Duw.