20 Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw trwy wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni.
21 Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw'r Gyfraith Iddewig ydy'r ffordd, er bod y Gyfraith a'r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni.
22 Y rhai sy'n credu sy'n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae'r un fath i bawb
23 am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain.
24 Duw sy'n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni'n rhydd.
25 Trwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e yn aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e.
26 Ac mae'n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy'n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e'i hun.