7 Neu ydy'n iawn dadlau fel yma?: “Mae'r celwydd dw i'n ddweud yn dangos yn gliriach fod Duw yn dweud y gwir, ac mae'n ei anrhydeddu e! Felly pam dw i'n dal i gael fy marnu fel pechadur?”
8 Na! Waeth i ni ddweud wedyn, “Gadewch i ni wneud drwg er mwyn i ddaioni ddod o'r peth”! Ac oes, mae rhai yn hel straeon sarhaus mai dyna dŷn ni yn ei ddweud! … Maen nhw'n haeddu beth sy'n dod iddyn nhw!
9 Felly beth ydyn ni'n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi dangos fod pechod yn rheoli'n bywydau ni fel pawb arall!
10 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn glir: “Does gan neb berthynas iawn gyda Duw – neb o gwbl!
11 Does neb sy'n deall go iawn, neb sydd wir yn ceisio Duw.
12 Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!”
13 “Mae eu geiriau'n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.”