6 Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae'n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy'n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny):
7 “Mae'r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi eu bendithio'n fawr! y rhai sydd â'u pechodau wedi eu symud o'r golwg am byth.
8 Mae'r rhai dydy'r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi eu bendithio'n fawr!”
9 Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)?Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai trwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw.
10 Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu!
11 Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi ei dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
12 Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod trwy'r ddefod, ond am eu bod wedi credu yr un fath ag Abraham.