9 Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)?Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai trwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw.
10 Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu!
11 Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi ei dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
12 Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod trwy'r ddefod, ond am eu bod wedi credu yr un fath ag Abraham.
13 Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
14 Os mai'r etifeddion ydy'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn am eu bod nhw'n ufudd i'r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim – yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf!
15 Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni'n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os oes dim cyfraith does dim trosedd.