1 Felly, gan ein bod ni wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
2 Wrth gredu dŷn ni eisoes wedi dod i brofi haelioni Duw, a gallwn edrych ymlaen yn llawen i gael rhannu yn ei ysblander.
3 A dŷn ni'n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni'n dioddef, am ein bod ni'n gwybod fod dioddefaint yn rhoi'r nerth i ni ddal ati.
4 Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni.