4 Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni.
5 Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau trwy roi'r Ysbryd Glân i ni!
6 Pan oedd pethau'n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma'r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg!
7 Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da.
8 Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!
9 Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi ei dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi!
10 Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan roedden ni'n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw!