9 Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi ei dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi!
10 Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan roedden ni'n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw!
11 Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib.
12 Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.
13 Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl.
14 Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw'n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda trwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o'r Meseia oedd yn mynd i ddod.
15 Ac eto tasen ni'n cymharu'r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw!