14 Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!
15 Felly, ydyn ni'n mynd i ddal i bechu am mai dim y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach, a'n bod wedi profi haelioni Duw? Na! Wrth gwrs ddim!
16 Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.
17 Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi ei ddysgu i chi.
18 Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn.
19 Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy'n hawdd i chi ei ddeall: O'r blaen roeddech chi'n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy'n iawn eich rheoli chi, a'ch gwneud chi'n bobl sy'n byw bywydau glân.
20 Pan oeddech chi'n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy'n iawn.