2 Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i'r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd?
3 Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni'n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i'r Meseia Iesu, roedden ni'n uniaethu â'i farwolaeth e.
4 Wrth gael ein bedyddio, cawson ni'n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o'r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
5 Os ydyn ni wedi ein huno â'i farwolaeth, dŷn ni'n siŵr o gael ein huno hefyd â'i atgyfodiad.
6 Mae beth roedden ni'n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda'r Meseia, er mwyn i'r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy.
7 Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod.
8 Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!