6 Mae beth roedden ni'n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda'r Meseia, er mwyn i'r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy.
7 Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod.
8 Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!
9 Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi ei godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.
10 Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw!
11 Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
12 Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau.