15 Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!
16 Ac os dw i'n gwybod mod i'n gwneud y peth anghywir, dw i'n cytuno fod Cyfraith Duw yn dda.
17 Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a'r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd.
18 Dw i'n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i'n methu!
19 Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i'n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud.
20 Ac os dw i'n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy'n rheoli bellach – y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd.
21 Felly, er fy mod i eisiau gwneud beth sy'n iawn, mae'r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.