Rhufeiniaid 7:2-8 BNET

2 Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i'w gŵr tra mae'r gŵr hwnnw'n dal yn fyw. Ond, os ydy'r gŵr yn marw, dydy'r rheol ddim yn cyfri ddim mwy.

3 Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi'n dal yn fyw, mae hi'n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae'r sefyllfa'n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn.

4 Dyma beth dw i'n ei ddweud, ffrindiau – trwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi – ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw.

5 Pan roedd yr hen natur ddrwg yn ein rheoli ni, roedd Cyfraith Duw yn dangos y nwydau pechadurus hynny oedd ar waith yn ein bywydau ni, a'r canlyniad oedd marwolaeth.

6 Ond bellach, dŷn ni wedi ein gollwng yn rhydd o afael y Gyfraith. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o'r blaen. Dŷn ni'n rhydd i wasanaethu Duw yn ffordd newydd yr Ysbryd, ddim yn yr hen ffordd o geisio cadw at lythyren y ddeddf.

7 Felly beth mae hyn yn ei olygu? Ydw i'n awgrymu fod y Gyfraith roddodd Duw yn beth drwg? Wrth gwrs ddim! Heb y Gyfraith fyddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n pechu. Sut fyddwn i'n gwybod fod chwennych yn beth drwg oni bai fod Cyfraith Duw yn dweud “Paid chwennych”

8 Ond yna roedd pechod yn gweld ei gyfle ac yn defnyddio'r gorchymyn i wneud i mi chwennych pob math o bethau drwg. Heb y Gyfraith mae pechod gystal â bod yn farw!