8 Ond yna roedd pechod yn gweld ei gyfle ac yn defnyddio'r gorchymyn i wneud i mi chwennych pob math o bethau drwg. Heb y Gyfraith mae pechod gystal â bod yn farw!
9 Ar un adeg roeddwn i'n gallu byw yn ddigon hapus heb y Gyfraith. Ond wedyn cafodd y gorchymyn ei roi a dyma bechod yn codi ei ben hefyd.
10 Roeddwn i'n gweld fy mod i'n haeddu marw. Roedd y gorchymyn oedd i roi bywyd i mi wedi dod â marwolaeth.
11 Gwelodd pechod ei gyfle, a'm twyllo i. Fy nghondemnio i farwolaeth!
12 Mae Cyfraith Duw yn sanctaidd, a'r gorchmynion yn dweud beth sy'n iawn ac yn dda.
13 Felly ai y peth da yma wnaeth fy lladd i? Nage, wrth gwrs ddim! Y pechod mae'r peth da yn ei ddangos wnaeth fy lladd i. Felly beth mae'r gorchymyn yn ei wneud ydy dangos mor ofnadwy o ddrwg ydy pechod.
14 Dŷn ni'n gwybod bod Cyfraith Duw yn dda ac yn ysbrydol. Fi ydy'r drwg! Fi sy'n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu'n rhwym i bechod.