16 Ydy, mae'r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni'n blant i Dduw.
17 Ac os ydyn ni'n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae'n ei roi i'w fab y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni'n cael rhannu yn ei ysblander mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd.
18 Dw i'n reit siŵr bod beth dŷn ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o'i gymharu â'r ysblander gwych fyddwn ni'n ei brofi maes o law.
19 Ydy, mae'r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy'n blant iddo go iawn.
20 Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (Dim ei dewis hi oedd hynny – cafodd ei orfodi arni).
21 Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae'r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu'r rhyddid bendigedig fydd Duw'n ei roi i'w blant.
22 Dŷn ni'n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn.