19 Ydy, mae'r greadigaeth i gyd yn edrych ymlaen yn frwd at y dydd pan fydd Duw yn dangos pwy sy'n blant iddo go iawn.
20 Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (Dim ei dewis hi oedd hynny – cafodd ei orfodi arni).
21 Ond mae gobaith i edrych ymlaen ato: mae'r greadigaeth hefyd yn mynd i gael ei gollwng yn rhydd! Fydd hi ddim yn gaeth i lygredd ddim mwy. Bydd yn rhannu'r rhyddid bendigedig fydd Duw'n ei roi i'w blant.
22 Dŷn ni'n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn.
23 Ac nid dim ond y greadigaeth sy'n griddfan, ond ni hefyd sy'n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o'n mewn wrth ddisgwyl i'r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd!
24 Am ein bod wedi'n hachub gallwn edrych ymlaen at hyn yn hyderus. Does neb yn edrych ymlaen at rywbeth sydd ganddo'n barod!
25 Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano.