33 Pwy sy'n mynd i gyhuddo'r bobl mae Duw wedi eu dewis iddo'i hun? Wnaiff Duw ddim! Duw ydy'r un sy'n eu gwneud nhw'n ddieuog yn ei olwg!
34 Felly pwy sy'n mynd i'n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy'r un gafodd ei ladd a'i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni.
35 Oes yna rywbeth sy'n gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad y Meseia? Nac oes, dim byd! Dydy poen ddim yn gallu, na dioddefaint, cael ein herlid, newyn na noethni, peryglon na hyd yn oed cael ein lladd!
36 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.”
37 Ond dŷn ni'n concro'r cwbl i gyd, a mwy, am fod y Meseia wedi'n caru ni.
38 Dw i'n hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na'r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol.
39 Dim byd ym mhellteroedd eitha'r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!