9 Ond dim yr hunan sy'n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy'n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbwl.
10 Ond os ydy'r Meseia ynoch chi, er bod y corff yn mynd i farw o achos pechod, mae'r Ysbryd Glân yn rhoi bywyd tragwyddol i chi, am fod gynnoch chi berthynas iawn gyda Duw.
11 Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e'n rhoi bywyd newydd i'ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae'r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud.
12 Felly, frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i ni bellach fyw fel mae'r natur bechadurus eisiau.
13 Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae'r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd.
14 Mae pawb sydd a'u bywydau'n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw.
15 Dydy'r Ysbryd Glân dŷn ni wedi ei dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae'n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno'n llawen, “Abba! Dad!”