23 Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi eu paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf.
24 Ac ie, ni ydy'r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd!
25 Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea: “Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi; a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir”
26 a hefyd, “Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, ‘Dych chi ddim yn bobl i mi’ byddan nhw'n cael eu galw yn blant y Duw byw.”
27 Ac mae Eseia'n dweud fel hyn am Israel: “Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr, dim ond gweddillion – rhyw nifer fechan – fydd yn cael eu hachub,
28 Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen, ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.”
29 Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw, bydden ni wedi ein dinistrio fel Sodom, ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.”