30 Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Mae'n golygu fod pobl o genhedloedd eraill – pobl oedd ddim yn ceisio dilyn Duw – wedi cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu.
31 Ond mae pobl Israel, oedd wedi meddwl y byddai'r Gyfraith yn eu gwneud nhw'n iawn gyda Duw, wedi methu cadw'r Gyfraith honno.
32 Pam? Am eu bod nhw'n dibynnu ar beth roedden nhw eu hunain yn ei wneud yn lle credu. Maen nhw wedi baglu dros ‛y garreg sy'n baglu pobl‛,
33 fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: Edrychwch – dw i'n gosod yn Jerwsalem garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Ond fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi. # Eseia 8:14Eseia 28:16 (LXX)