Daniel 10 BCN

Y Weledigaeth ar Lan Afon Tigris

1 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia rhoddwyd datguddiad i Daniel, a elwid Beltesassar. Yr oedd yn ddatguddiad gwir, er ei bod yn ymdrech fawr ei ddeall; ond rhoddwyd iddo ddeall trwy'r weledigaeth.

2 Yn y dyddiau hynny, yr oeddwn i, Daniel, mewn galar am dair wythnos.

3 Ni fwyteais ddanteithion ac ni chyffyrddais â chig na gwin, ac nid irais fy hun am y tair wythnos gyfan.

4 Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis cyntaf, a minnau'n eistedd ar lan yr afon fawr, afon Tigris,

5 codais fy ngolwg a gwelais ddyn wedi ei wisgo mewn lliain, a gwregys o aur Offir am ei ganol.

6 Yr oedd ei gorff fel maen beryl a'i wyneb fel mellt; yr oedd ei lygaid fel ffaglau tân, ei freichiau a'i draed fel pres gloyw, a'i lais fel sŵn tyrfa.

7 Myfi, Daniel, yn unig a welodd y weledigaeth; ni welodd y rhai oedd gyda mi mohoni, ond daeth arnynt ddychryn mawr a ffoesant i ymguddio.

8 Gadawyd fi ar fy mhen fy hun i edrych ar y weledigaeth fawr hon; pallodd fy nerth, newidiodd fy ngwedd yn arswydus, ac euthum yn wan.

9 Fe'i clywais yn siarad, ac wrth wrando ar sŵn ei eiriau syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg.

10 Yna cyffyrddodd llaw â mi, a'm gosod yn sigledig ar fy ngliniau a'm dwylo,

11 a dywedodd wrthyf, “Daniel, cefaist ffafr; ystyria'r geiriau a lefaraf wrthyt, a saf ar dy draed, oherwydd anfonwyd fi atat.” Pan lefarodd wrthyf, codais yn grynedig.

12 Yna dywedodd wrthyf, “Paid ag ofni, Daniel, oherwydd o'r dydd cyntaf y penderfynaist geisio deall ac ymostwng o flaen dy Dduw, clywyd dy eiriau; ac oherwydd hynny y deuthum i.

13 Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia.

14 Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd.”

15 Wedi iddo ddweud hyn wrthyf, ymgrymais hyd lawr heb ddweud dim.

16 Yna cyffyrddodd un tebyg i fod dynol â'm gwefusau, ac agorais fy ngenau i siarad, a dywedais wrth yr un oedd yn sefyll o'm blaen, “F'arglwydd, y mae fy ngofid yn fawr oherwydd y weledigaeth, a phallodd fy nerth.

17 Sut y gall gwas f'arglwydd ddweud dim wrth f'arglwydd, a minnau yn awr heb nerth nac anadl ynof?”

18 Unwaith eto cyffyrddodd yr un tebyg i fod dynol â mi a'm cryfhau,

19 a dweud, “Paid ag ofni, cefaist ffafr; heddwch i ti. Bydd wrol, bydd gryf.” Ac fel yr oedd yn siarad â mi cefais nerth, a dywedais, “Llefara, f'arglwydd, oblegid rhoddaist nerth i mi.”

20 Yna dywedodd, “A wyddost pam y deuthum atat? Dywedaf wrthyt beth sy'n ysgrifenedig yn llyfr y gwirionedd. Rwy'n dychwelyd yn awr i ymladd â thywysog Persia, ac wedyn fe ddaw tywysog Groeg.

21 Ac nid oes neb yn fy nghynorthwyo yn erbyn y rhai hyn ar wahân i'ch tywysog Mihangel.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12