1 Penderfynodd Dareius benodi cant ac ugain o lywodraethwyr, un i fod dros bob rhan o'r deyrnas,
2 a throstynt hwy dri rhaglaw, gan gynnwys Daniel; ac iddynt hwy yr oedd y llywodraethwyr yn gyfrifol, i warchod buddiannau'r brenin.
3 Yr oedd Daniel yn rhagori ar y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am fod ganddo ddawn arbennig, a bwriadai'r brenin ei osod dros yr holl deyrnas.
4 Yna chwiliodd y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr am ryw achos ynglŷn â'r deyrnas y gallent ei ddwyn yn erbyn Daniel, ond ni fedrent gael achos na bai ynddo; am ei fod mor ddidwyll, ni chawsant unrhyw amryfusedd na bai ynddo.
5 Yna dywedodd y dynion hyn, “Ni fedrwn gael unrhyw achos yn erbyn y Daniel hwn os na chawn rywbeth ynglŷn â chyfraith ei Dduw.”
6 Felly aeth y rhaglawiaid a'r llywodraethwyr gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, “O Frenin Dareius, bydd fyw byth!
7 Y mae holl swyddogion y deyrnas, yn benaethiaid a llywodraethwyr, yn gynghorwyr a rhaglawiaid, yn unfryd â'i gilydd y dylai'r brenin wneud deddf a gorchymyn pendant fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn ymbil ar unrhyw dduw neu ddyn, ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod.
8 Yn awr, O frenin, cadarnha'r gorchymyn ac arwydda'r ddogfen, fel na chaiff ei newid, yn ôl cyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.”
9 Felly arwyddodd y Brenin Dareius y ddogfen a'r gorchymyn.
10 Pan glywodd Daniel fod y ddogfen wedi ei harwyddo, aeth i'w dŷ. Yr oedd ffenestri ei lofft yn agor i gyfeiriad Jerwsalem, ac yntau'n parhau i benlinio deirgwaith y dydd, a gweddïo a thalu diolch i'w Dduw, yn ôl ei arfer.
11 Daeth y bobl hyn gyda'i gilydd a dal Daniel yn ymbil ac yn erfyn ar ei Dduw.
12 Yna aethant at y brenin a'i atgoffa am ei orchymyn: “Onid wyt wedi arwyddo gorchymyn fod pob un sydd, o fewn deg diwrnod ar hugain, yn gweddïo ar unrhyw dduw neu ddyn ar wahân i ti, O frenin, i'w daflu i ffau'r llewod?” Atebodd y brenin, “Dyna'r gorchymyn, yn unol â chyfraith ddigyfnewid y Mediaid a'r Persiaid.”
13 Dywedasant hwythau wrth y brenin, “Nid yw'r Daniel yma, o gaethglud Jwda, yn cymryd unrhyw sylw ohonot ti na'r gorchymyn a arwyddaist, O frenin, ond y mae'n gweddïo deirgwaith y dydd.”
14 Pan glywodd y brenin hyn yr oedd yn drist iawn, a cheisiodd ffordd i achub Daniel, ac ymdrechu hyd fachlud haul i'w arbed.
15 Ond daeth y rhain gyda'i gilydd at y brenin a dweud wrtho, “Gwyddost, O frenin, fod pob gorchymyn a deddf o eiddo'r brenin yn ddigyfnewid yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid.”
16 Felly gorchmynnodd y brenin iddynt ddod â Daniel, a'i daflu i ffau'r llewod; ond dywedodd wrth Daniel, “Bydded i'th Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub.”
17 Yna daethant â maen, a'i osod ar geg y ffau, a seliodd y brenin ef â'i sêl ei hun a sêl ei bendefigion, rhag bod unrhyw newid ar y dyfarniad yn erbyn Daniel.
18 Dychwelodd y brenin i'w balas a threulio'r noson mewn ympryd; ni ddaethpwyd â merched ato, ac ni allai gysgu.
19 Yn y bore, ar doriad gwawr, cododd y brenin a mynd ar frys at ffau'r llewod.
20 Wedi iddo gyrraedd y ffau, galwodd ar Daniel mewn llais pryderus a dweud, “Daniel, gwas y Duw byw, a fedrodd dy Dduw, yr wyt yn ei wasanaethu'n barhaus, dy achub rhag y llewod?”
21 Atebodd Daniel y brenin, “O frenin, bydd fyw byth!
22 Anfonodd fy Nuw ei angel, a chau safn y llewod fel na wnaethant niwed i mi, am fy mod yn ddieuog yn ei olwg; ni wneuthum niwed i tithau chwaith, O frenin.”
23 Gorfoleddodd y brenin, a gorchymyn rhyddhau Daniel o'r ffau. A phan gafodd ei ryddhau, nid oedd unrhyw niwed i'w weld arno, am iddo ymddiried yn ei Dduw.
24 Ac ar orchymyn y brenin, daethant â'r rhai oedd wedi cyhuddo Daniel, a'u taflu i ffau'r llewod, hwy a'u plant a'u gwragedd, a chyn iddynt gyrraedd gwaelod y ffau yr oedd y llewod wedi eu llarpio ac wedi malu eu hesgyrn yn chwilfriw.
25 Yna ysgrifennodd y Brenin Dareius at yr holl bobloedd, o bob cenedl ac iaith trwy'r byd i gyd, “Heddwch fo i chwi!
26 Yr wyf yn gorchymyn fod pawb ym mhob talaith o'm teyrnas i ofni a pharchu Duw Daniel.”“Ef yw'r Duw byw, y tragwyddol;ni ddinistrir ei frenhiniaeth, a phery ei arglwyddiaeth byth.
27 Y mae'n achub ac yn gwaredu,yn gwneud arwyddion a rhyfeddodauyn y nefoedd ac ar y ddaear;ef a achubodd Daniel o afael y llewod.”
28 A llwyddodd y Daniel hwn yn ystod teyrnasiad Dareius a theyrnasiad Cyrus y Persiad.