13 Am un diwrnod ar hugain bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f'erbyn; yna daeth Mihangel, un o'r prif dywysogion, i'm helpu, pan adawyd fi yno gyda thywysog brenhinoedd Persia.
14 Deuthum i roi gwybod i ti beth a ddigwydd i'th bobl yn niwedd y dyddiau, oherwydd gweledigaeth am y dyfodol yw hon hefyd.”
15 Wedi iddo ddweud hyn wrthyf, ymgrymais hyd lawr heb ddweud dim.
16 Yna cyffyrddodd un tebyg i fod dynol â'm gwefusau, ac agorais fy ngenau i siarad, a dywedais wrth yr un oedd yn sefyll o'm blaen, “F'arglwydd, y mae fy ngofid yn fawr oherwydd y weledigaeth, a phallodd fy nerth.
17 Sut y gall gwas f'arglwydd ddweud dim wrth f'arglwydd, a minnau yn awr heb nerth nac anadl ynof?”
18 Unwaith eto cyffyrddodd yr un tebyg i fod dynol â mi a'm cryfhau,
19 a dweud, “Paid ag ofni, cefaist ffafr; heddwch i ti. Bydd wrol, bydd gryf.” Ac fel yr oedd yn siarad â mi cefais nerth, a dywedais, “Llefara, f'arglwydd, oblegid rhoddaist nerth i mi.”