12 Pan orchfygir y llu, bydd yn ymfalchïo ac yn lladd myrddiynau, ond heb ennill buddugoliaeth.
13 Yna bydd brenin y gogledd yn codi llu arall, mwy na'r cyntaf, ac ymhen amser fe ddaw â byddin fawr ac adnoddau lawer.
14 Y pryd hwnnw bydd llawer yn gwrthryfela yn erbyn brenin y de, a therfysgwyr o blith dy bobl di yn codi, ac felly'n cyflawni'r weledigaeth, ond methu a wnânt.
15 Yna daw brenin y gogledd a gwarchae ar ddinas gaerog a'i hennill. Ni fydd byddinoedd y de, na'r milwyr dewisol, yn medru ei wrthsefyll, am eu bod heb nerth.
16 Bydd ei wrthwynebydd yn gwneud fel y myn, ac ni saif neb o'i flaen; bydd yn ymsefydlu yn y wlad hyfryd, a fydd yn llwyr dan ei awdurdod.
17 Ei fwriad fydd dod â holl rym ei deyrnas, ac yna fe wna gytundeb ag ef a rhoi iddo ferch yn briod er mwyn distrywio'r deyrnas; ond ni fydd hynny'n tycio nac yn troi'n fantais iddo.
18 Yna fe dry at yr ynysoedd, ac ennill llawer ohonynt, ond fe rydd pennaeth estron derfyn ar ei ryfyg, a throi ei ryfyg yn ôl arno ef ei hun.