5 Yna edrychais i, Daniel, a gweld dau arall yn sefyll un bob ochr i'r afon.
6 A gofynnodd y naill i'r llall, sef y gŵr mewn gwisg liain a oedd uwchlaw dyfroedd yr afon, “Pa bryd y bydd terfyn ar y rhyfeddodau?”
7 Sylwais ar y gŵr mewn gwisg liain a oedd ar lan bellaf yr afon; cododd ei ddwy law i'r nef a thyngu, “Cyn wired â bod y Tragwyddol yn fyw, am gyfnod a chyfnodau a hanner cyfnod y bydd hyn, a daw'r cwbl i ben pan roddir terfyn ar ddiddymu nerth y bobl sanctaidd.”
8 Yr oeddwn yn clywed heb ddeall, a gofynnais, “F'arglwydd, beth a ddaw o hyn?”
9 Dywedodd yntau, “Dos, Daniel, oherwydd y mae'r geiriau wedi eu cadw'n ddiogel a'u selio hyd amser y diwedd.
10 Bydd llawer yn ymlanhau ac yn eu cannu eu hunain ac yn cael eu puro; bydd yr holl rai drygionus yn gwneud drwg heb ddeall, heb neb ond y deallus yn amgyffred.
11 Ac o'r amser y diddymir yr aberth beunyddiol, a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol, bydd mil dau gant naw deg o ddyddiau.