8 Yr oeddwn yn clywed heb ddeall, a gofynnais, “F'arglwydd, beth a ddaw o hyn?”
9 Dywedodd yntau, “Dos, Daniel, oherwydd y mae'r geiriau wedi eu cadw'n ddiogel a'u selio hyd amser y diwedd.
10 Bydd llawer yn ymlanhau ac yn eu cannu eu hunain ac yn cael eu puro; bydd yr holl rai drygionus yn gwneud drwg heb ddeall, heb neb ond y deallus yn amgyffred.
11 Ac o'r amser y diddymir yr aberth beunyddiol, a gosod yno y ffieiddbeth diffeithiol, bydd mil dau gant naw deg o ddyddiau.
12 Gwyn ei fyd yr un fydd yn disgwyl ac yn cyrraedd y mil tri chant tri deg a phump o ddyddiau.
13 Dos dithau ymlaen hyd y diwedd; yna cei orffwys, a sefyll i dderbyn dy ran yn niwedd y dyddiau.”