26 A dyma'r dehongliad. ‘Mene’: rhifodd Duw flynyddoedd dy deyrnasiad, a daeth ag ef i ben.
27 ‘Tecel’: pwyswyd di yn y glorian, a'th gael yn brin.
28 ‘Peres’: rhannwyd dy deyrnas, a'i rhoi i'r Mediaid a'r Persiaid.”
29 Yna, ar orchymyn Belsassar, cafodd Daniel wisg borffor, a chadwyn o aur am ei wddf, a'i benodi yn drydydd llywodraethwr yn y deyrnas.
30 A'r noson honno lladdwyd Belsassar, brenin y Caldeaid.
31 A derbyniodd Dareius y Mediad y deyrnas, yn ŵr dwy a thrigain oed.