3 Felly dygwyd y llestri aur a ladratawyd o'r deml yn Jerwsalem, ac yfodd y brenin a'i dywysogion a'i wragedd a'i ordderchwragedd ohonynt.
4 Wrth yfed y gwin, yr oeddent yn moliannu duwiau o aur ac arian, o bres a haearn, o bren a charreg.
5 Yn sydyn, ymddangosodd bysedd llaw ddynol yn ysgrifennu ar blastr y pared gyferbyn â'r canhwyllbren yn llys y brenin, a gwelai'r brenin y llaw ddynol yn ysgrifennu.
6 Yna gwelwodd y brenin mewn dychryn, ac aeth ei gymalau'n llipa a'i liniau'n grynedig.
7 Galwodd y brenin am y swynwyr a'r Caldeaid a'r sêr-ddewiniaid, ac meddai wrth ddoethion Babilon, “Os medr unrhyw un ddarllen yr ysgrifen hon a'i dehongli i mi, caiff hwnnw wisg borffor, a chadwyn aur am ei wddf, a llywodraethu'n drydydd yn y deyrnas.”
8 Yna daeth doethion y brenin ato, ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen na'i dehongli i'r brenin.
9 Felly cynhyrfodd y Brenin Belsassar yn enbyd, a gwelwi, ac yr oedd ei dywysogion yn yr un dryswch.