1 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Belsassar cefais i, Daniel, weledigaeth arall at yr un gyntaf a gefais.
2 Yr oeddwn yn y palas yn Susan yn nhalaith Elam, a gwelais yn y weledigaeth fy mod wrth yr afon Ulai.
3 Edrychais i fyny a gwelais hwrdd yn sefyll ar lan yr afon. Yr oedd ganddo ddau gorn hir, gyda'r hiraf o'r ddau yn tyfu ar ôl y llall.
4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua'r gorllewin, y gogledd a'r de, ac ni allai'r un anifail ei wrthsefyll na neb achub o'i afael. Yr oedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn cyflawni gorchestion.
5 Fel yr oeddwn yn ystyried hyn gwelais fwch gafr a chanddo gorn enfawr rhwng ei lygaid; yr oedd yn dod o'r gorllewin ar draws yr holl wlad heb gyffwrdd â'r ddaear.
6 Daeth at yr hwrdd deugorn a welais yn sefyll ar lan yr afon, a rhuthro arno â'i holl nerth.