11 Ymchwyddodd yn erbyn tywysog y llu, a diddymu'r offrwm dyddiol a difetha'i gysegr.
12 Mewn pechod gosodwyd llu yn erbyn yr offrwm dyddiol, a thaflu gwirionedd i'r llawr. Felly y llwyddodd yn y cwbl a wnaeth.
13 Clywais un o'r rhai sanctaidd yn siarad, ac un arall yn dweud wrth yr un a siaradai, “Am ba hyd y pery'r weledigaeth o'r offrwm dyddiol, a'r pechod anrheithiol, a sarnu'r cysegr a'r llu?”
14 Dywedodd wrtho, “Am ddwy fil tri chant o ddyddiau, hwyr a bore; yna fe adferir y cysegr.”
15 Ac fel yr oeddwn i, Daniel, yn edrych ar y weledigaeth ac yn ceisio'i deall, gwelwn un tebyg i fod dynol yn sefyll o'm blaen,
16 a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, “Gabriel, esbonia'r weledigaeth.”
17 Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, “Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth.”