15 Ac fel yr oeddwn i, Daniel, yn edrych ar y weledigaeth ac yn ceisio'i deall, gwelwn un tebyg i fod dynol yn sefyll o'm blaen,
16 a chlywais lais dynol yn galw dros afon Ulai ac yn dweud, “Gabriel, esbonia'r weledigaeth.”
17 Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, “Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth.”
18 Wrth iddo siarad â mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef â mi a'm gosod ar fy nhraed,
19 a dweud, “Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.
20 Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.
21 Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.