18 Wrth iddo siarad â mi, syrthiais ar fy hyd ar lawr mewn llewyg, ond cyffyrddodd ef â mi a'm gosod ar fy nhraed,
19 a dweud, “Yn wir rhof wybod iti beth a ddigwydd pan ddaw'r llid i ben, oherwydd y mae i'r diwedd ei amser penodedig.
20 Brenhinoedd Media a Persia yw'r hwrdd deugorn a welaist.
21 Brenin Groeg yw'r bwch blewog, a'r corn mawr rhwng ei lygaid yw'r brenin cyntaf.
22 A'r un a dorrwyd, a phedwar yn codi yn ei le, dyma bedair brenhiniaeth yn codi o'r un genedl, ond heb feddu'r un nerth ag ef.”
23 “Ac ar ddiwedd eu teyrnasiad,pan fydd y troseddwyr yn eu hanterth,fe gyfyd brenin creulon a chyfrwys.
24 Bydd ei nerth yn fawr,ac fe wna niwed anhygoel;fe lwydda yn yr hyn a wna,ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.