17 Ac yn awr, ein Duw, gwrando ar weddi ac ymbil dy was, ac er dy fwyn dy hun pâr i'th wyneb ddisgleirio ar dy gysegr anghyfannedd.
18 Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di.
19 Gwrando, O Arglwydd! Trugarha, O Arglwydd! Gwrando, O Arglwydd, a gweithreda! Er dy fwyn dy hun, fy Nuw, paid ag oedi, oherwydd dy enw di sydd ar dy ddinas ac ar dy bobl.”
20 A thra oeddwn yn llefaru ac yn gweddïo, yn cyffesu fy mhechod a phechod fy mhobl Israel, ac yn ymbil o flaen yr ARGLWYDD fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw,
21 ehedodd y gŵr Gabriel, a welais eisoes yn y weledigaeth, a chyffyrddodd â mi ar adeg yr offrwm hwyrol.
22 Esboniodd i mi a dweud, “Daniel, rwyf wedi dod yn awr i'th hyfforddi.
23 Pan ddechreuaist ymbil, cyhoeddwyd gair, a deuthum innau i'w fynegi, oherwydd cefaist ffafr. Ystyria'r gair a deall y weledigaeth.