6 Wrth iddynt yfed gwin, dywedodd y brenin wrth Esther, “Fe gei di beth bynnag y gofynni amdano. Gwneir beth bynnag a fynni, hyd hanner y deyrnas.”
7 Atebodd Esther, “Dyma fy nghais a'm dymuniad:
8 os cefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac os gwêl ef yn dda roi fy neisyfiad a gwneud fy nymuniad, bydded i'r brenin a Haman ddod i'r wledd yr wyf fi am ei pharatoi iddynt; yna yfory gwnaf fel y mae'r brenin yn dweud.”
9 Y diwrnod hwnnw aeth Haman allan yn llawen a hapus. Ond pan welodd ef Mordecai ym mhorth y brenin, ac yntau'n gwrthod codi na dangos parch tuag ato, gwylltiodd yn enbyd ag ef;
10 ond ymataliodd, ac aeth adref. Yna galwodd ar ei gyfeillion, a'i wraig Seres,
11 ac adroddodd wrthynt am ei olud mawr, am nifer ei feibion, ac am y modd y dyrchafodd y brenin ef trwy ei osod uwchlaw'r tywysogion a'r gweision.
12 Ac ychwanegodd, “Ni wahoddodd y Frenhines Esther neb ond myfi i fynd gyda'r brenin i'r wledd a wnaeth; ac fe'm gwahoddodd i fynd ati yfory eto gyda'r brenin.