1 Ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar, daeth yr amser i gyflawni gair a gorchymyn y brenin. Trowyd y diwrnod, y gobeithiai gelynion yr Iddewon eu trechu arno, yn ddiwrnod i'r Iddewon drechu eu caseion.
2 Unodd yr Iddewon yn eu dinasoedd ym mhob un o daleithiau'r Brenin Ahasferus i ymosod ar y rhai oedd yn ceisio'u niweidio. Ni wrthwynebodd neb hwy, oherwydd yr oedd ar yr holl bobl eu hofn.
3 Cawsant eu cynorthwyo gan dywysogion y taleithiau, y pendefigion, y rheolwyr a gweision y brenin, am fod arnynt ofn Mordecai.
4 Oherwydd yr oedd Mordecai yn flaenllaw yn y palas ac yn adnabyddus drwy'r holl daleithiau, ac yr oedd yn ennill mwy a mwy o rym.
5 Trawodd yr Iddewon eu holl elynion â'r cleddyf, a'u lladd a'u difa; a gwnaethant fel y mynnent â'u caseion.
6 Yn Susan y brifddinas yr oeddent wedi llofruddio a lladd pum cant o bobl,
7 yn cynnwys Parsandatha, Dalffon, Aspatha,
8 Poratha, Adaleia, Aridatha,
9 Parmasta, Arisai, Aridai, Bajesatha,
10 sef deg mab Haman fab Hammedatha, gelyn yr Iddewon. Lladdodd yr Iddewon y rhain, ond heb gyffwrdd â'r ysbail.
11 Y diwrnod hwnnw, pan glywodd y brenin faint a laddwyd yn Susan y brifddinas,
12 dywedodd wrth y Frenhines Esther, “Y mae'r Iddewon wedi lladd pum cant o bobl a deg mab Haman yn Susan y brifddinas. Beth a wnaethant yn y gweddill o daleithiau'r brenin? Yn awr, beth a fynni? Fe'i cei. Os oes gennyt unrhyw ddymuniad arall, fe'i gwneir.”
13 Meddai Esther, “Os gwêl y brenin yn dda, rhodder caniatâd i'r Iddewon sydd yn Susan i weithredu yfory hefyd yn ôl y wŷs a gyhoeddir heddiw, a chroger deg mab Haman ar y crocbren.”
14 Gorchmynnodd y brenin i hyn gael ei wneud, a chyhoeddwyd y wŷs yn Susan, a chrogwyd deg mab Haman.
15 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar ymunodd yr Iddewon oedd yn Susan i ladd tri chant o bobl yn Susan, ond heb gyffwrdd â'r ysbail.
16 Yr oedd yr Iddewon yn nhaleithiau'r brenin wedi ymuno i'w hamddiffyn eu hunain, er mwyn cael llonydd gan eu gelynion; yr oeddent wedi lladd saith deg a phump o filoedd o'u caseion, ond heb gyffwrdd â'r ysbail.
17 Digwyddodd hyn ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar; peidiasant ar y pedwerydd dydd ar ddeg, a gwnaethant hwnnw'n ddydd o wledd a llawenydd.
18 Yr oedd Iddewon Susan wedi ymgasglu ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis, a'r pedwerydd ar ddeg, ac wedi peidio ar y pymthegfed dydd; felly cadwasant hwy hwnnw yn ddydd o wledd a llawenydd.
19 Dyna pam y mae'r Iddewon sy'n byw mewn pentrefi yn y wlad yn cadw'r pedwerydd ar ddeg o fis Adar yn ddydd o wledd a llawenydd a gŵyl, ac yn anfon anrhegion i'w gilydd.
20 Rhoddodd Mordecai y pethau hyn ar gof a chadw, ac anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon ym mhob un o daleithiau'r Brenin Ahasferus, ymhell ac agos,
21 yn galw arnynt i gadw'r pedwerydd ar ddeg a'r pymthegfed o fis Adar bob blwyddyn
22 fel y dyddiau pan gafodd yr Iddewon lonydd gan eu gelynion, a'r mis pan drowyd eu tristwch yn llawenydd a'u galar yn ŵyl. Yr oeddent i'w cadw'n ddyddiau o wledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i'w gilydd ac i'r tlodion.
23 Cytunodd yr Iddewon i wneud fel yr oeddent wedi dechrau, ac yn ôl yr hyn a ysgrifennodd Mordecai atynt.
24 Gwnaethant hyn am fod Haman fab Hammedatha yr Agagiad, gelyn yr Iddewon, wedi cynllwyn i'w dinistrio, ac wedi bwrw Pwr, hynny yw coelbren, i'w difa a'u dinistrio.
25 Ond pan ddaeth hyn i sylw'r brenin, gorchmynnodd mewn llythyr fod cynllwyn drwg Haman yn erbyn yr Iddewon i ddychwelyd ar ei ben ef ei hun; felly crogwyd ef a'i feibion ar grocbren.
26 Am hynny galwyd y dyddiau hyn yn Pwrim, o'r enw Pwr. Oherwydd yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn y llythyr hwn, ac oherwydd yr hyn a welsant ac a glywsant ynglŷn â'r mater,
27 addawodd ac ymrwymodd yr Iddewon, ar eu rhan eu hunain, a'u plant a phawb oedd yn ymuno â hwy, i gadw'r ddau ddiwrnod hyn bob blwyddyn mewn modd arbennig ac ar amser penodedig.
28 Addawsant gofio a chadw'r dyddiau hynny ym mhob cenhedlaeth, teulu, talaith a dinas, fel na fyddai'r Iddewon yn anwybyddu dyddiau Pwrim, na'u plant yn anghofio amdanynt.
29 Yna ysgrifennodd y Frenhines Esther ferch Abihail, a Mordecai'r Iddew, ag awdurdod llawn i gadarnhau'r ail lythyr hwn ynglŷn â Pwrim.
30 Anfonwyd llythyrau i'r holl Iddewon yn y cant dau ddeg a saith o daleithiau teyrnas Ahasferus, yn dymuno iddynt heddwch a diogelwch,
31 ac yn eu cymell i gadw dyddiau Pwrim yn eu hamser priodol, yn ôl gorchymyn Mordecai'r Iddew a'r Frenhines Esther, ac fel yr oeddent hwy wedi ymrwymo ar eu rhan eu hunain a'u plant ynglŷn ag amserau ympryd a galar.
32 Cadarnhaodd gorchymyn Esther y rheolau hyn ar gyfer Pwrim, ac fe'u rhoddwyd ar gof a chadw.