1 Y noson honno yr oedd y brenin yn methu cysgu, a gorchmynnodd iddynt ddod â llyfr y cofiadur, sef y cronicl, ac fe'i darllenwyd iddo.
2 Ynddo cofnodwyd yr hyn a ddywedodd Mordecai am Bigthana a Theres, dau eunuch y brenin oedd yn gofalu am y porth ac oedd wedi cynllwyn i ymosod ar y brenin.
3 Dywedodd y brenin, “Pa glod ac anrhydedd a gafodd Mordecai am hyn?” Atebodd y llanciau oedd yn gweini ar y brenin nad oedd wedi derbyn dim.
4 Gofynnodd y brenin, “Pwy sydd yn y cyntedd?” Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tŷ'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.
5 Dywedodd gweision y brenin wrtho, “Haman sy'n sefyll yn y cyntedd.” A galwodd y brenin ar Haman i ddod i mewn.
6 Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, “Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?” Ac meddai Haman wrtho'i hun, “Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?”
7 Dywedodd wrth y brenin, “I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu,