6 Daeth Haman ymlaen, ac meddai'r brenin wrtho, “Beth ddylid ei wneud i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu?” Ac meddai Haman wrtho'i hun, “Pwy fyddai'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu yn fwy na mi?”
7 Dywedodd wrth y brenin, “I'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu,
8 dylid dod â gwisg frenhinol a wisgir gan y brenin, a cheffyl y marchoga'r brenin arno, un y mae arfbais y brenin ar ei dalcen.
9 Rhodder y wisg a'r ceffyl i un o dywysogion pwysicaf y brenin, a gwisged yntau'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu, a'i arwain trwy sgwâr y ddinas ar gefn y ceffyl, a chyhoeddi o'i flaen fel hyn: ‘Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.’ ”
10 Yna dywedodd y brenin wrth Haman, “Dos ar frys i gael y wisg a'r ceffyl fel y dywedaist, a gwna hyn i Mordecai yr Iddew, sy'n eistedd ym mhorth y brenin. Gofala wneud popeth a ddywedaist.”
11 Felly cymerodd Haman y wisg a'r ceffyl; gwisgodd Mordecai a'i arwain ar gefn y ceffyl trwy sgwâr y ddinas, a chyhoeddi o'i flaen: “Dyma sy'n digwydd i'r dyn y mae'r brenin yn dymuno'i anrhydeddu.”
12 Yna dychwelodd Mordecai i borth y brenin, ond brysiodd Haman adref yn drist, â gorchudd am ei ben.