1 Y diwrnod hwnnw rhoddodd y Brenin Ahasferus dŷ Haman, gelyn yr Iddewon, i'r Frenhines Esther; a daeth Mordecai i ŵydd y brenin, oherwydd yr oedd Esther wedi dweud wrtho pa berthynas oedd ef iddi.
2 Yna tynnodd y brenin ei fodrwy, a gymerodd yn ôl oddi ar Haman, a'i rhoi i Mordecai. Rhoddodd Esther dŷ Haman yng ngofal Mordecai.
3 Unwaith eto apeliodd Esther at y brenin a syrthio wrth ei draed. Wylodd ac erfyn arno rwystro'r drygioni a gynllwyniodd Haman yr Agagiad yn erbyn yr Iddewon.
4 Estynnodd y brenin ei deyrnwialen aur at Esther, a chododd hithau a sefyll o'i flaen a dweud,
5 “Os gwêl y brenin yn dda, ac os cefais ffafr ganddo, a bod y mater yn dderbyniol ganddo, a minnau yn ei foddhau, anfoned wŷs i alw'n ôl y llythyrau a ysgrifennodd Haman fab Hammedatha yr Agagiad gyda'r bwriad o ddifa'r Iddewon sydd ym mhob un o daleithiau'r brenin.
6 Sut y gallaf edrych ar y trybini sy'n dod ar fy mhobl? Sut y gallaf oddef gweld dinistr fy nghenedl?”