12 Yr oeddent i wneud hyn trwy holl daleithiau'r Brenin Ahasferus ar ddiwrnod penodedig, y trydydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, sef Adar.
13 Yr oedd copi o'r wŷs i'w anfon yn gyfraith i bob talaith, a'i ddangos i'r holl bobloedd, fel y byddai'r Iddewon yn barod y diwrnod hwnnw i ddial ar eu gelynion.
14 Felly aeth y negeswyr allan yn ddiymdroi, yn marchogaeth ar feirch cyflym y brenin; yr oeddent yn mynd ar frys ar orchymyn y brenin. Cyhoeddwyd y wŷs hefyd yn Susan y brifddinas.
15 Yna aeth Mordecai allan o ŵydd y brenin mewn gwisg frenhinol o las a gwyn, a chyda choron fawr o aur, a mantell o liain main a phorffor; ac yr oedd dinas Susan yn orfoleddus.
16 Daeth goleuni, llawenydd, hapusrwydd ac anrhydedd i ran yr Iddewon.
17 Ym mhob talaith a dinas lle daeth gair a gorchymyn y brenin, yr oedd yr Iddewon yn gwledda ac yn cadw gŵyl yn llawen a hapus. Ac yr oedd llawer o bobl y wlad yn honni mai Iddewon oeddent, am fod arnynt ofn yr Iddewon.