11 Safwch mewn braw, amaethwyr,galarwch, winwyddwyr,am y gwenith a'r haidd;oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.
12 Gwywodd y winwydden,a deifiwyd y ffigysbren.Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau—y mae holl brennau'r maes wedi gwywo.A diflannodd llawenydd o blith y bobl.
13 Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid,codwch gwynfan, weinidogion yr allor.Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain,weinidogion fy Nuw,oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwmgael eu hatal o dŷ eich Duw.
14 Cyhoeddwch ympryd,galwch gynulliad.Chwi henuriaid, cynullwchholl drigolion y wladi dŷ'r ARGLWYDD eich Duw,a llefwch ar yr ARGLWYDD.
15 Och y fath ddiwrnod!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
16 Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid,a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw?
17 Y mae'r had yn crebachuo dan y tywyrch,yr ysgubor wedi ei chwalua'r granar yn adfeilion,am i'r grawn fethu.