1 Canwch utgorn yn Seion,bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd.Cryned holl drigolion y wladam fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod;y mae yn agos—
2 dydd o dywyllwch ac o gaddug,dydd o gymylau ac o ddüwch.Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd,wele luoedd mawr a chryf;ni fu eu bath erioed,ac ni fydd ar eu hôl ychwaitham genedlaethau dirifedi.
3 Ysa tân o'u blaena llysg fflam ar eu hôl.Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden,ond ar eu hôl yn anialwch diffaith,ac ni ddianc dim rhagddo.
4 Y maent yn ymddangos fel ceffylau,ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5 Fel torf o gerbydauneidiant ar bennau'r mynyddoedd;fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl,fel byddin gref yn barod i ryfel.
6 Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt,a gwelwa pob wyneb.
7 Rhuthrant fel milwyr,dringant y mur fel rhyfelwyr;cerdda pob un yn ei flaenheb wyro o'i reng.
8 Ni wthiant ar draws ei gilydd,dilyn pob un ei lwybr ei hun;er y saethau, ymosodantac ni ellir eu hatal.
9 Rhuthrant yn erbyn y ddinas,rhedant dros ei muriau,dringant i fyny i'r tai,ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
10 Ysgwyd y ddaear o'u blaena chryna'r nefoedd.Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllua'r sêr yn atal eu goleuni.
11 Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;y mae ei lu yn fawr iawn,a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12 “Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,“dychwelwch ataf â'ch holl galon,ag ympryd, wylofain a galar.
13 Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”Graslon a thrugarog yw ef,araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14 Pwy a ŵyr na thry a thosturio,a gadael bendith ar ei ôl—bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15 Canwch utgorn yn Seion,cyhoeddwch ympryd,galwch gymanfa,
16 cynullwch y bobl.Neilltuwch y gynulleidfa,cynullwch yr henuriaid,casglwch y plant,hyd yn oed y babanod.Doed y priodfab o'i ystafella'r briodferch o'i siambr.
17 Rhwng y porth a'r allorwyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warthac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.Pam y dywedir ymysg y bobloedd,‘Ple mae eu Duw?’ ”
18 Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir,a thrugarhau wrth ei bobl.
19 Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl,“Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olewnes eich digoni;ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20 Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych,a'i yrru i dir sych a diffaith,â'i reng flaen at fôr y dwyraina'i reng ôl at fôr y gorllewin;bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi,am iddo ymorchestu.”
21 Paid ag ofni, ddaear;bydd lawen a gorfoledda,oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22 Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion,oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas;bydd y coed yn dwyn ffrwyth,a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23 Blant Seion, byddwch lawen,gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw;oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol;fe dywallt y glawogydd ichwi,y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24 Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷda'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25 “Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedda ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr,y locust difaol a'r cyw locust,fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.”
26 “Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni,a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw,a wnaeth ryfeddod â chwi.Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
27 Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel,ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall.Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.”
28 “Ar ôl hyntywalltaf fy ysbryd ar bawb;bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion,a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau.
29 Hyd yn oed ar y gweision a'r morynionfe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.”
30 “Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear,gwaed a thân a cholofnau mwg.
31 Troir yr haul yn dywyllwcha'r lleuad yn waedcyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
32 A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub,oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol,fel y dywedodd yr ARGLWYDD,ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.”