5 Deffrowch feddwon, ac wylwch;galarwch, bob yfwr gwin,am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.
6 Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir,a honno'n un gref a dirifedi;dannedd llew yw ei dannedd,ac y mae ganddi gilddannedd llewes.
7 Maluriodd fy ngwinwydd,a darnio fy nghoed ffigys;rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr,ac aeth y cangau'n wynion.
8 Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliainam ddyweddi ei hieuenctid.
9 Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD;y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.
10 Anrheithiwyd y tir,y mae'r ddaear yn galaru,oherwydd i'r grawn gael ei ddifa,ac i'r gwin ballu,ac i'r olew sychu.
11 Safwch mewn braw, amaethwyr,galarwch, winwyddwyr,am y gwenith a'r haidd;oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.