6 Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir,a honno'n un gref a dirifedi;dannedd llew yw ei dannedd,ac y mae ganddi gilddannedd llewes.
7 Maluriodd fy ngwinwydd,a darnio fy nghoed ffigys;rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr,ac aeth y cangau'n wynion.
8 Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliainam ddyweddi ei hieuenctid.
9 Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD;y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.
10 Anrheithiwyd y tir,y mae'r ddaear yn galaru,oherwydd i'r grawn gael ei ddifa,ac i'r gwin ballu,ac i'r olew sychu.
11 Safwch mewn braw, amaethwyr,galarwch, winwyddwyr,am y gwenith a'r haidd;oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.
12 Gwywodd y winwydden,a deifiwyd y ffigysbren.Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau—y mae holl brennau'r maes wedi gwywo.A diflannodd llawenydd o blith y bobl.