11 Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;y mae ei lu yn fawr iawn,a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12 “Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,“dychwelwch ataf â'ch holl galon,ag ympryd, wylofain a galar.
13 Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”Graslon a thrugarog yw ef,araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14 Pwy a ŵyr na thry a thosturio,a gadael bendith ar ei ôl—bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15 Canwch utgorn yn Seion,cyhoeddwch ympryd,galwch gymanfa,
16 cynullwch y bobl.Neilltuwch y gynulleidfa,cynullwch yr henuriaid,casglwch y plant,hyd yn oed y babanod.Doed y priodfab o'i ystafella'r briodferch o'i siambr.
17 Rhwng y porth a'r allorwyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warthac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.Pam y dywedir ymysg y bobloedd,‘Ple mae eu Duw?’ ”